Cyffredin

Beth yw newid hinsawdd a chynhesu byd-eang?

Cynhesu byd-eang a newid hinsawdd! Fe welwch y termau hyn ym mhobman nawr, ar y newyddion, ar gyfryngau cymdeithasol ac mae hyd yn oed eich cymydog i lawr y ffordd yn siarad amdanyn nhw. Ond a oes unrhyw un yn gwybod yn union beth mae’r eirfa yma’n ei gyfeirio ato? Wel, newid hinsawdd yw’r newid mawr, hirdymor ym mhatrymau tywydd neu dymereddau cyfartalog y blaned. Dim ond un agwedd ar newid hinsawdd yw cynhesu byd-eang ac mae’n cyfeirio at y cynnydd parhaus mewn tymheredd cyfartalog byd-eang ger wyneb y Ddaear. Mae hyn yn digwydd oherwydd y crynodiadau cynyddol o nwyon tŷ gwydr yn yr atmosffer oherwydd gweithgaredd dynol. (Llywodraeth Cymru, 2021)

Nwy Tŷ Gwydr, CO₂ a CO₂e, beth maen nhw i gyd yn ei golygu?

Mae’r termau hyn yn cael eu taflu o gwmpas drwy’r amser a gall yr hyn y maent i gyd yn ei olygu fynd yn ddryslyd braidd, gadewch i ni ddechrau gyda beth yw nwy tŷ gwydr (NTG). Nwy yw NTG sy’n amsugno ac yn ail-allyrru gwres o fewn atmosffer y Ddaear a thrwy hynny sydd yn cadw atmosffer y blaned yn gynhesach nag y byddai fel arall. Y prif nwyon tŷ gwydr yn atmosffer y Ddaear yw anwedd dŵr, carbon deuocsid (CO₂), methan (CH4), ocsid nitraidd (N2O) ac osôn. (Mathew Brander, 2012)

Pam rydyn ni’n poeni am garbon deuocsid (CO2) a beth ydyw? CO2 yw’r nwy tŷ gwydr mwyaf cyffredin a allyrrir drwy weithgareddau dynol o ran meintiau a chyfanswm yr effaith ar gynhesu byd-eang ac felly dylem boeni amdano. Llosgi tanwyddau ffosil er mwyn cynhyrchu pŵer, dros gludiant a datgoedwigo yw rhai enghreifftiau yn unig o weithgareddau dynol sy’n gollwng CO2. (Mathew Brander, 2012)

Beth am CO2e? Mae’n edrych yr un fath â CO2, felly beth yw’r gwahaniaeth? Wel, llaw-fer yw CO2e ar gyfer ‘carbon deuocsid cyfwerth’ ac fe ddefnyddir er mwyn cymharu nwyon tŷ gwydr amrywiol mewn uned gyffredin. Ar gyfer unrhyw swm a math o GHG, mae CO2e yn cynrychioli faint o CO2 a fyddai wedi bod yn effaith cynhesu byd-eang cyfatebol. (Llywodraeth Cymru, 2021) I fynegi swm o GHG fel CO2e, gellir lluosi maint y GHG â’i botensial cynhesu byd-eang. Er enghraifft, os yw 1kg o fethan yn cael ei ollwng, yna gellir mynegi hyn fel 25kg o CO2e (1kg o CH4 × 25 = 25kg CO2e). (Mathew Brander, 2012)

Beth yw argyfwng hinsawdd?

Mae’r Geiriadur Saesneg Rhydychen yn diffinio argyfwng hinsawdd fel sefyllfa lle mae angen gweithredu ar frys i leihau neu atal newid yn yr hinsawdd ac osgoi niwed amgylcheddol a allai fod yn anwrthdroadwy o ganlyniad iddo. Yn 2019, datganodd y DU argyfwng hinsawdd cenedlaethol, yn dilyn datganiadau eraill a wnaed gan fwrdeistrefi ledled y DU, Cyngor Dinas Bryste oedd y cyntaf yn 2018, nid yn unig yn y DU ond yn Ewrop hefyd. (Brown L. , 2019)

Y rheswm pam y bu’r datganiad hwn yn gam mor aruthrol i’r DU yw oherwydd iddo gydnabod o’r diwedd effeithiau difrifol newid hinsawdd, sy’n anochel heb newidiadau. Ystadegau ac enghreifftiau sydd a’r llais uchaf, felly dyma rai yn unig i ddangos yr effeithiau trychinebus os na fyddwn yn gwneud dim. Roedd y tro diwethaf i’n planed fod yn boethach nag yn awr o leiaf 125,000 o flynyddoedd yn ôl. Rhagwelir y bydd tymereddau byd-eang yn mynd heibio i’r trothwy di-droi’n-ôl erbyn 2027 os na wneir unrhyw beth, bydd hyn yn ac mae wedi arwain at gyfnodau amlach o wres eithafol. Yn hanesyddol, roedd tywydd poeth yn ddigwyddiad unwaith y ddegawd, nawr mae hyn yn digwydd 2.8 gwaith y ddegawd ac mewn dim ond 6-11 mlynedd gallai fod yn digwydd 4.1 gwaith y ddegawd. Mae tywydd poeth wedi bod yn lladd cannoedd ar filoedd o bobl yn ogystal â biliynau o greaduriaid y môr. Yn 2021, mae’r Almaen a Tsieina wedi gweld llifogydd syfrdanol, mae tanau gwyllt o faint eithafol wedi llosgi trwy Ganada, California a Gwlad Groeg, a glaw am y tro cyntaf wedi disgyn yn hytrach nag eira ar gopa Ynys Las sy’n toddi’n gyflym. Ar y gyfradd bresennol, erbyn 2050, bydd 216 miliwn o bobl, yn bennaf o wledydd sy’n datblygu, yn cael eu gorfodi i ffoi rhag effeithiau newid hinsawdd. Mae angen gweithredu radical ac roedd ei angen ymhell cyn heddiw. (The Guardian, 2021)

Carbon Niwtral, Carbon Negyddol a Sero Net, beth maen nhw i gyd yn ei olygu?

Defnyddir y termau hyn drwy’r amser fel pe baent yn gyfnewidiol, ond nid yw hyn yn wir. Mae carbon niwtral yn golygu cyflawni cyflwr lle mae’r swm net o CO2e sy’n cael ei ollwng i’r atmosffer yn cael ei leihau i sero oherwydd ei fod yn cael ei gydbwyso gan gamau gweithredu i leihau neu wrthbwyso’r allyriadau hyn. Os yw’r swm o CO2e wedi’i leihau neu ei wrthbwyso yn fwy na’r swm net sy’n cael ei ollwng i’r atmosffer, yna mae hyn yn golygu carbon negatif. Er bod sero net yn golygu gwneud newidiadau i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr i’r swm isaf a gwrthbwyso fel y dewis olaf. Bydd y gwrthbwyso’n cael ei wneud i wrthweithio’r allyriadau hanfodol unwaith y bydd yr holl fesurau lleihau allyriadau wedi’u rhoi ar waith. (Chartier, 2021)

Pam ddylwn i drafferthu bod yn garbon niwtral neu garbon negatif?

Nod dod yn garbon niwtral neu yn garbon negyddol yw lleddfu effeithiau cynhesu byd-eang ac atal newid yn yr hinsawdd, ac o ganlyniad, cadw a gwarchod y blaned ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Pe bai sefydliad yn dod yn garbon niwtral neu’n garbon negyddol, byddai hyn yn arwain at lai o lygredd, llai o wastraff at safleoedd tirlenwi, ac yn y pen draw llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr. (Unisan, 2021) Heb unrhyw newid, erbyn 2027 disgwylir i dymheredd byd-eang gyrraedd cam anwrthdroadwy, bydd datgoedwigo ar y gyfradd bresennol yn dinistrio pob coedwig law ar y ddaear o fewn 100 mlynedd ac mae’n anochel y bydd bywyd ar y ddaear dan fygythiad. (The Guardian, 2021)

Sut mae fy sefydliad yn elwa o ddod yn garbon niwtral?

Wrth i’ch sefydliad ddod yn garbon niwtral, carbon negatif, neu sero net rydych nid yn unig yn helpu i atal cynhesu byd-eang, ond rydych hefyd ar flaen y gad, ac yn cymryd camau mentrus a fydd yn rhoi mantais gystadleuol ddiffiniol i’ch sefydliad. Trwy wahaniaethu eich hun yn y farchnad trwy ddangos eich bod yn mesur, datgelu a rheoli risgiau hinsawdd byddwch yn cynyddu refeniw trwy ymgysylltu mwy â chwsmeriaid. Mantais bosibl arall fyddai lleihau risgiau, a’r megis rheoliadau posibl yn y dyfodol sy’n trethu’r defnydd o garbon ymhlith sefydliadau.

Beth yw gwrthbwyso carbon?

Gwrthbwyso carbon? Mae’n swnio fel ateb hudolus i newid hinsawdd, felly beth ydi ef? Iawndal am allyriadau CO2e sy’n deillio o weithgarwch dynol yw gwrthbwyso carbon. Gwneir hyn trwy fuddsoddi mewn prosiectau amgylcheddol sydd wedi’u cynllunio i wneud gostyngiadau cyfatebol mewn CO2e yn yr atmosffer. Yn aml mae’r prosiectau hyn wedi’u lleoli mewn gwledydd sy’n datblygu, ac mae’r rhan fwyaf wedi’u cynllunio i leihau allyriadau yn y dyfodol. Mae amrywiaeth eang o brosiectau gwrthbwyso carbon posibl i fuddsoddi ynddynt, a gallai’r rhain gynnwys cyflwyno technolegau ynni glân, planhigfeydd coed gyda’r bwriad o atafaelu CO2 yn uniongyrchol o’r awyr neu brynu credydau carbon o gynllun masnachu allyriadau. (Clark, 2011) Yn nodweddiadol, byddai sefydliad yn buddsoddi mewn prosiectau amgylcheddol sy’n cyd-fynd â’u hagenda foesegol a chymdeithasol neu’n ymwneud â’u cynnyrch i wrthbwyso allyriadau.

Felly, a yw’n ateb hudolus i newid hinsawdd? Gadewch i ni ddychmygu pe bai rhywun yn mynd i mewn i farathon, ond eu bod yn talu rhywun arall i wneud yr hyfforddiant wythnosol ar eu rhan. Wel, ni fyddai hynny yn eu helpu i redeg y marathon ar ddiwrnod y ras!. Trwy’r enghraifft hon gallwn weld mai’r allwedd yw lleihau unrhyw allyriadau nwyon tŷ gwydr a hefyd i fuddsoddi mewn prosiectau amgylcheddol. Mae’n bwysig bod sefydliad wedi lleihau eu hallyriadau cymaint â phosibl cyn gwrthbwyso carbon fel arall gellid eu hystyried yn wyrddgalchu.

Beth yw gwyrddgalchu? Mae gwyrddgalchu (greenwashing) yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio gweithredoedd sefydliad sy’n rhoi’r argraff o fod yn ecogyfeillgar yn hytrach na bod yn ecogyfeillgar mewn gwirionedd.

Beth yw’r camau i ddod yn sefydliad carbon niwtral neu garbon negyddol?

Felly, rydych chi’n meddwl bod hyn yn swnio’n wych, byddwn i wrth fy modd yn gwneud fy rhan i a helpu i atal newid hinsawdd, ond mae hyn yn swnio fel lot o waith caled, beth yw’r camau a sut gallwn ni ddod yn garbon niwtral neu garbon negatif? Wel, mewn gwirionedd nid yw mor gymhleth ag y gallai ymddangos ar yr olwg gyntaf a byddwn yn gallu gwneud yr holl waith drostoch, unwaith y gallwch chi ddarparu data eich sefydliadau i ni a beth yw eich uchelgeisiau. Y cam cyntaf fyddai cyfrifo ôl troed carbon eich sefydliad; y ffordd y byddem yn gwneud hyn fyddai edrych ar flwyddyn sylfaen ac yna dadansoddi gwahanol agweddau ar y sefydliad, gan gasglu data y byddem yn ei gasglu i gyfrifo amcangyfrif o gyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr ar gyfer y flwyddyn honno. Byddem yn adolygu allyriadau nwyon tŷ gwydr a achosir gan gwmpasau amrywiol y sefydliad, er enghraifft, gwresogi, cludiant, defnydd ynni, nwyddau a gwasanaethau a brynwyd a llawer mwy. Yn dilyn hyn, byddem yn ymgynghori â chi i ddeall lle y gallem eich cynghori i wneud newidiadau a lleihau eich allyriadau yn ddelfrydol i lefel weddilliol, heb fawr ddim effaith, os o gwbl, ar ymarferoldeb a phroffidioldeb y sefydliad (a allai arbed arian iddynt? – a thrwy hynny, gynyddu proffidioldeb). Yn olaf, byddem yn edrych ar wrthbwyso’r allyriadau gweddilliol hyn trwy gynghori amrywiol brosiectau gwrthbwyso i gyd-fynd ag agenda foesegol a chymdeithasol y sefydliad. (Llywodraeth Cymru, 2021)

A yw dod yn garbon niwtral yn ddewis neu a oes rhaid i mi?

Mae’r DU wedi ymrwymo yn ôl y gyfraith i ddod yn sero net erbyn 2050 ac mae’n galw ar sefydliadau i osod targedau lleihau allyriadau uchelgeisiol erbyn 2030. (Llywodraeth, 2021) Fodd bynnag, yn dibynnu ar faint eich sefydliad, mae terfynau amser gwahanol i’w bodloni; o dan reolau arfaethedig y Trysorlys, rhaid i sefydliadau ariannol a chwmnïau sydd â chyfranddaliadau wedi’u rhestru ar Gyfnewidfa Stoc Llundain lunio cynlluniau trawsnewidiad sero net, y mae’n rhaid eu cyhoeddi o 2023 ymlaen. (Newyddion y BBC, 2021) Hefyd, yng Nghymru mae Llywodraeth Cymru wedi pennu gwireddu’r uchelgais o gyflawni sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030. (Llywodraeth Cymru, 2021) Er nad yw’n ofynnol i’ch sefydliad gychwyn ar ei daith sero net ar hyn o bryd, yr hwyraf y byddwch yn penderfynu newid i sero net a gosod y targedau hyn yr anoddaf fydd hi i gyrraedd y nodau hyn o fewn y terfynau amser a osodwyd gan y DU. Byddwch hefyd yn wynebu risg o dreth defnydd carbon yn y dyfodol ar gyfer eich sefydliad. Os ydych yn ceisio unrhyw gontract sector cyhoeddus mae’n ofynnol bod gennych gynllun datgarboneiddio cadarn ar waith.

Faint fydd yn ei gostio i wneud fy sefydliad yn garbon niwtral?

Rydych chi wedi sylweddoli pa mor ddifrifol yw’r sefyllfa fyd-eang, rydych chi wedi deall y camau i ddod yn garbon niwtral ac wedi cydnabod y manteision enfawr i’ch sefydliad a’r blaned, ond rydych chi’n poeni faint mae hyn yn mynd i’w gostio i chi a’i gymryd i ffwrdd o elw eich sefydliad. Bydd Greener Edge yn codi ffi am ein gwasanaeth i helpu eich sefydliad i ddod yn garbon niwtral ond mae faint yn union fydd gost hon yn amrywio ac yn dibynnu ar ffactorau lluosog; sef maint eich sefydliad, yn fel ar fer po fwyaf yw’r sefydliad y mwyaf y mae angen ei newid i leihau eich allyriadau i lefel weddilliol, lefel y newid yr ydych yn fodlon ei wneud, y newidiadau a wnewch a’r prosiectau amgylcheddol yr ydych yn dewis buddsoddi ynddynt i wneud iawn am eich allyriadau. Ar gyfer sefydliadau llai, mae’n bosib mai dim ond 1% o’ch elw blynyddol y gallai hyn ei gostio ac ar gyfer sefydliadau mwy gallai hyn gynyddu. Fodd bynnag, fel y nodwyd yn y buddion i’ch sefydliad ddod yn garbon niwtral, dylai eich sefydliad weld mwy o refeniw yn dilyn y newid hwn, drwy fwy o ymgysylltu â chwsmeriaid a byddai’n lliniaru’r risg o dreth carbon yn y dyfodol a allai fod yn ganran uwch o lawer o’ch elw.

Sut bydd pobl yn gwybod bod fy sefydliad yn garbon niwtral?

Nawr eich bod wedi dod yn sefydliad carbon niwtral, rydych chi am i bawb wybod, wrth reswm? Rydych chi eisiau dangos i bawb bod eich sefydliad yn malio am newid hinsawdd a’ch bod chi’n gwneud popeth o fewn eich gallu i helpu! Wel, trwy ddod yn garbon niwtral gyda Greener Edge rydym wedi defnyddio’r fethodoleg a nodir yn safon ISO:14064. Byddai eich busnes wedyn yn ennill ardystiad trwy hunanddatganiad a byddai Greener Edge yn dyfarnu ardystiad penodol i Greener Edge y byddech yn gallu ei gael ar eich gwefan, ynghyd ag eicon Greener Edge i gynrychioli bod eich sefydliad yn garbon niwtral. Yn ogystal â hyn, byddem yn darparu sticer eicon carbon niwtral Greener Edge i chi ei arddangos yn eich sefydliad i’ch holl gwsmeriaid ei weld.

Beth yw pwynt gwneud unrhyw beth pan fod Tsieina yn agor gorsaf bŵer glo newydd bob wythnos?

Er ei bod yn wir mai Tsieina yw’r allyrrydd mwyaf o CO2e ar y blaned a’i bod wedi bod yn cynyddu allyriadau’n aruthrol yn flynyddol ac wedi bod yn agor llawer o orsafoedd pŵer glo newydd yn ddiweddar, mae’n ymddangos eu bod yn gwneud newid er gwell. Maent hefyd yn arwain ym maes pŵer solar ac yn dod yn wyrddach yn gyflymach nag unrhyw wlad arall, sy’n golygu cynyddu coedwigaeth trwy raglenni a gynlluniwyd i leihau erydiad pridd a llygredd. (Brown D. , 2021) Gall gwybod hyn fod yn gysur, nad yw’r newidiadau rydym yn eu gwneud yn cael eu gwneud mewn ofer. Fodd bynnag, hyd yn oed pe na bai Tsieina yn gwneud newidiadau, yna ni fyddai’r newidiadau yr ydym yn eu gwneud yn ofer beth bynnag, a byddwn yn esbonio pam!

Yn gyntaf, wrth i’ch sefydliad ddod yn garbon niwtral, mae llawer o fanteision i chi a’ch ardal leol. Mae gennych y potensial i arbed arian drwy leihau gweithgareddau allyriadau uchel. Byddwch yn dangos arweinyddiaeth leol drwy wneud newidiadau cadarnhaol i helpu i atal newid yn yr hinsawdd a chael effaith leol gadarnhaol. . Byddwch hefyd yn dangos i’ch staff a’ch cwsmeriaid eich bod yn cydnabod ac yn ymateb i risgiau hinsawdd. Bydd y newid yma hefyd yn gwella’r hinsawdd leol trwy leihau llygredd, gwella ansawdd yr aer ac felly ansawdd bywyd.

Yn olaf, ein rhwymedigaeth foesol yw gwneud rhywbeth pan fyddwn yn gwybod y gallwn yn hytrach na thybio nad yw newid eich sefydliadau i garbon niwtral yn mynd i wneud gwahaniaeth. Ar gyfer pob sefydliad sy’n gwneud newid bydd effaith crychdonni, ac ymhen amser bydd hyn yn tyfu i gael effaith enfawr ar gyflwr presennol newid hinsawdd.

Beth fydd Greener Edge yn ei wneud â gwybodaeth fy sefydliad?

I ddod yn garbon niwtral gyda Greener Edge, bydd gofyn i’ch sefydliad ddatgelu gwybodaeth gyfrinachol a sensitif. Rydym yn cymryd y mater hwn o ddifrif a byddwn yn trin y wybodaeth yn ofalus iawn yn unol â rheolau GDPR. Byddem yn arwyddo Cytundeb Peidio â Datgelu, sy’n atal unrhyw drydydd parti rhag gweld y wybodaeth rydych yn ei rhannu, a dim ond ar gyfer y bwriad i rannu’r wybodaeth y byddai’r wybodaeth yn cael ei defnyddio. Ar unrhyw adeg, ar gais, bydd Greener Edge yn dychwelyd pob copi a chofnod o’r wybodaeth ac ni fydd yn cadw unrhyw gopïau na chofnodion o’r wybodaeth.

Pam ddylai Greener Edge gyfrifo ôl troed fy sefydliad? Pam na allaf ei wneud fy hun a defnyddio cyfrifiannell ar-lein?

Pam na allaf ddefnyddio cyfrifiannell ar-lein i ddarganfod fy ôl troed carbon? Gallwn i arbed rhywfaint o arian i fy sefydliad a gallaf ddechrau mewnbynnu data ar unwaith i archwilio fy ôl troed! Wel, ydy, mae’n wir efallai y byddwch chi’n gallu cyfrifo’ch ôl troed carbon am lai o arian a dechrau ar unwaith ond mae yna lawer o anfanteision gyda chyfrifiannell ar-lein nad ydych chi’n eu cael gyda ni. Yn gyntaf, nid yw’n ymwneud â’r cyfrifiad yn unig, gan mai dim ond rhan fach o’r daith i ddod yn garbon niwtral yw hyn. Ond mae penderfynu beth i’w gynnwys, gosod targedau lleihau, creu cynlluniau gweithredu, dewis prosiectau gwrthbwyso a monitro cynnydd i gyd yn dasgau i’w cwblhau ar wahân i’r gyfrifiannell ac yn dasgau sydd angen cyngor arbenigol. Gall Greener Edge gwblhau’r holl dasgau hyn i chi trwy ein gwybodaeth arbenigol a gallwn deilwra ein proses i siwtio nodau ac anghenion eich sefydliad yn wahanol i gyfrifiannell ar-lein. Yn ail, fel arfer nid oes gan gyfrifianellau ar-lein y lefel o gywirdeb sy’n ofynnol, gan wneud rhagdybiaethau ac amcangyfrifon bras yn aml, tra gall Greener Edge gynnig gwasanaeth pwrpasol sy’n eich arwain trwy gymhlethdodau’r cyfrifiadau gyda’r ymchwil mwyaf diweddar sydd ar gael. Nid oes gan gyfrifianellau ar-lein yr hyblygrwydd ac maent yn tueddu i ymgorffori un ffordd o weithio, tra bod Greener Edge yn cynnig hyblygrwydd llwyr a gallant addasu’r broses wrth i’ch sefydliad ddatblygu ac wrth i ddealltwriaeth wyddonol, arferion gorau, a deddfwriaeth newid. (Go Climate Positive, 2021)

Beth am fy ôl troed carbon personol?

Dyna chi, mae eich sefydliad yn gwneud ei ran i helpu i atal newid yn yr hinsawdd ac mae eich sefydliad yn garbon niwtral! Ond mae hyn i gyd yn gwneud i chi feddwl, beth arall alla i ei wneud? A allaf wneud mwy i helpu i atal newid hinsawdd? Dw i eisiau gwneud mwy! Wel, gallwch chi edrych ar eich ôl troed carbon eich hun ac mae llawer o bethau y gallwch chi eu newid am eich bywyd bob dydd i leihau hyn. Un agwedd y gallwch chi ei newid yw’r bwyd rydych chi’n ei fwyta, er enghraifft, trwy fwyta cynhyrchion lleol a thymhorol a lleihau faint o gig rydych chi’n ei fwyta, os nad atal eich cymeriant cig. Newid posibl arall fyddai ymddygiad i wneud â dillad, megis gofalu am eich dillad, prynu dillad gan ffynhonellau moesol a chynaliadwy, neu hyd yn oed brynu dillad ail-law. Mae trafnidiaeth yn rhywbeth arall i’w ystyried, er enghraifft cyfyngu eich gyrru at pan fod gwir angen a chymryd trafnidiaeth gyhoeddus, neu’n well fyth, beicio. Hyd yn oed eich defnydd o ynni a gwastraff, lleihau ynni yn eich tŷ fod mor hawdd â chymryd cawodydd byrrach, dad-blygio offer electronig, peidio â gadael dyfeisiau wrth law, a diffodd y goleuadau yn ystod y dydd. Gellir lleihau gwastraff trwy brynu llysiau a ffrwythau rhydd a phrynu eitemau nad ydynt wedi’u pacio mewn plastig pan fo’n bosibl, gan wneud yn siŵr eich bod yn compostio gwastraff bwyd ac yn ailgylchu’r holl eitemau y gellir eu hailgylchu. (Europa, 2021) Yn ogystal â lleihau eich ôl troed carbon trwy wneud newidiadau syml i’ch bywyd bob dydd, mae’n bosibl cefnogi a buddsoddi yn eich prosiectau gwrthbwyso carbon eich hun. P’un a ydych chi’n dewis gwrthbwyso’ch ôl troed carbon cyfan yn flynyddol neu ddim ond y teithiau hedfan rydych chi’n eu cymryd, byddwch chi’n lleihau allyriadau carbon ac yn gwneud eich rhan. (Clark, 2011)

Cyfeiriadau

BBC News. (2021, Novemner 3). BBC. Retrieved from COP26: UK firms forced to show how they will hit net zero: https://www.bbc.co.uk/news/business-59136214

Brown, D. (2021, October 29). Why China’s climate policy matters to us all. Retrieved from BBC News: https://www.bbc.co.uk/news/world-asia-china-57483492

Brown, L. (2019, May 3). Climate Change: What is a climate emergency? Retrieved from BBC News: https://www.bbc.co.uk/news/newsbeat-47570654

Chartier, C. (2021, September). What’s the difference between carbon neutral and net zero? Retrieved from Ecometrica: https://ecometrica.com/carbon-neutral-net-zero/

Clark, D. (2011, September 16). The Guardian. Retrieved from A complete guide to carbon offsetting: https://www.theguardian.com/environment/2011/sep/16/carbon-offset-projects-carbon-emissions

Europa. (2021, 09 07). How to reduce my carbon footprint? Retrieved from Europa: https://europa.eu/youth/get-involved/sustainable%20development/how-reduce-my-carbon-footprint_en

Go Climate Positive. (2021, November). Is it better to use a calculator or a consultant for my business carbon footprint? Retrieved from Go Climate Positive: https://go-positive.co.uk/calculator-vs-consultant

Government. (2021, October 19). UK’s path to net zero set out in landmark strategy. Retrieved from Gov.uk: https://www.gov.uk/government/news/uks-path-to-net-zero-set-out-in-landmark-strategy

Mathew Brander. (2012, August). Greenhouse Gases, CO2, CO2e, and Carbon: What Do All These Terms Mean?

The Guardian. (2021, October 14). The climate disaster is here. Retrieved from The Guardian: https://www.theguardian.com/environment/ng-interactive/2021/oct/14/climate-change-happening-now-stats-graphs-maps-cop26

Unisan. (2021, April 15). How can I reduce the carbon footprint in my organisation? Is it possible to become carbon neutral? Retrieved from Unisan: https://www.unisanuk.com/how-can-i-reduce-the-carbon-footprint-in-my-organisation-is-it-possible-to-become-carbon-neutral/

Welsh Government. (2021, May). Welsh Public Sector Net Zero Carbon Reporting Guide.