Dadansoddi a Gwirio Data

Illustration representing sustainability data analysis and verification

Mae casglu data, a dadansoddi trylwyr, yn allweddol i gyfleu cyflawniadau cynaliadwyedd a deall eich allyriadau a'ch defnydd o ynni eich hun. Rydym yn symleiddio'r broses casglu data gan ein galluogi i ddadansoddi data sydd ar gael a chyflwyno canfyddiadau heb y jargon. 

Team reviewing charts on laptops during a sustainability data analysis meeting

Gallwn gynnig dulliau casglu data syml i'ch busnes neu sefydliad, neu fod yn rhan o'r broses o gasglu data i sicrhau bod ganddom ddata o'r ansawdd uchaf ar gyfer dadansoddi a gwirio trylwyr. 

Ein nod yw helpu cwmnïau i gyfleu eu cyflawniadau cynaliadwyedd yn gywir ac yn dryloyw, gan sicrhau atebolrwydd ar bob lefel. Gall ein tîm hyd yn oed adeiladu offer pwrpasol i'ch helpu i gasglu data yn ogystal â dadansoddi'r hyn a gesglir i gynhyrchu adroddiadau pwrpasol sy'n unigryw i'ch cwmni. 

Ydych chi angen mwy o hyder yn eich data cynaliadwyedd?

Dywedwch wrthym beth rydych chi am ei gyflawni a byddwn yn darparu cyngor clir ac ymarferol wedi'i deilwra i'ch sefydliad. 

© Hawlfraint Greener Edge Sustainability. Cedwir pob hawl. Gwefan wedi'i dylunio a'i datblygu gan D13 Creative. 

Gwefan wedi’i dylunio a’i datblygu gan D13 Creative