Arolygon Teithio Staff
Mae gan y teithiau y mae eich staff yn eu gwneud i'r gwaith ac yn ôl allyriadau cysylltiedig sy'n rhan o ôl troed carbon eich busnes neu sefydliad. Gallwn eich helpu i asesu maint yr allyriadau hyn.
Mae deall allyriadau teithiau eich staff i’r gwaith ac yn ôl, yn rhan allweddol o lunio strategaethau i leihau eich allyriadau yn gyffredinol.
Gall Greener Edge ddylunio arolwg teithio wedi'i deilwra i'ch busnes neu sefydliad, a fydd yn galluogi casglu'r data perthnasol i ddeall yr allyriadau hyn.
Yn ogystal â chyfrifo allyriadau o deithio staff, byddwn yn dadansoddi patrymau cymudo, dewisiadau trafnidiaeth a rhwystrau i ddefnyddio teithio carbon isel (yn ôl y perthnasedd). Byddwn hefyd yn rhoi argymhellion wedi'u teilwra i chi ar sut i leihau allyriadau o deithio staff, gan gynnwys cyfeirio at gyllid perthnasol gan y llywodraeth neu'r trydydd sector ar gyfer cefnogi teithio carbon isel staff, a sicrhau eich bod yn deall sut y gallai newidiadau polisi diweddar a rhai sydd ar ddod helpu.
Ydych chi’n barod i ddeall effaith teithio eich sefydliad?
Dywedwch wrthym beth rydych chi am ei gyflawni a byddwn yn darparu cyngor clir ac ymarferol wedi'i deilwra i'ch sefydliad.