Adrodd ar Ynni ac Ôl Troed Carbon

Illustration representing energy reporting and carbon footprint monitoring

Darganfyddwch sut mae eich adeilad(au) yn defnyddio ynni, cyfrifwch Ôl-troed Carbon eich busnes neu sefydliad (cyfanswm yr allyriadau) ar draws cwmpasau 1, 2 a 3 yn unol â chanllawiau Nwyon Tŷ Gwydr. 

Consultant annotating a building plan during an energy and carbon assessment

Rydym yn cynnal asesiadau ar-y-safle i ddeall sut mae eich adeilad(au) a'ch gweithrediadau'n defnyddio ynni - gan archwilio popeth o ffabrig yr adeilad a systemau mecanyddol i oleuadau, rheolyddion ac arferion dyddiol - i nodi ble mae ynni'n cael ei ddefnyddio'n effeithlon a ble mae'n cael ei wastraffu. 

Ochr yn ochr â hyn, gyda'n gwasanaeth Ôl-troed Carbon, rydym yn mesur eich allyriadau nwyon tŷ gwydr llawn ar draws cwmpasau 1, 2 a 3, gan gwmpasu popeth o ddefnydd tanwydd uniongyrchol a thrydan a brynwyd hyd at effeithiau gweithredol a’r gadwyn gyflenwi. Gyda'i gilydd, mae'r fewnwelediad yma yn ffurfio sylfaen gadarn, sy'n seiliedig ar ddata, ar gyfer gweithredu - gan ddarparu argymhellion clir, ymarferol a chost-effeithiol i wella effeithlonrwydd ynni, lleihau allyriadau, a chefnogi datgarboneiddio hirdymor. 

Ydych chi’n barod i ddeall eich defnydd o ynni a’ch allyriadau?

Dywedwch wrthym beth rydych chi am ei gyflawni a byddwn yn darparu cyngor clir ac ymarferol wedi'i deilwra ar gyfer eich sefydliad. 

© Hawlfraint Greener Edge Sustainability. Cedwir pob hawl. Gwefan wedi'i dylunio a'i datblygu gan D13 Creative. 

Gwefan wedi’i dylunio a’i datblygu gan D13 Creative