Pwy Ydym Ni: Ein Stori Ni
Sefydlwyd Greener Edge Ltd gan yr Ymgynghorydd Ynni a Chynaliadwyedd Stu Meades yn 2018 i ddarparu datrysiadau ynni a chynaliadwyedd o fewn y sector cyhoeddus a’r amgylchedd corfforaethol.

Cwrdd a Stu Meades
Stu yw Rheolwr Gyfarwyddwr Greener Edge. Mae Stu yn unigolyn hynod angerddol sydd â brwdfrydedd heintus dros amgylcheddaeth, cynaliadwyedd a datgarboneiddio. Ffurfiwyd ei angerdd yn ei ieuenctid trwy gerdded bryniau, mynydda a dringo creigiau ac fe gafodd hyn ei smentio pan dreuliodd amser yn gweithio fel logistegydd ymateb brys ar raglenni ymateb dyngarol ledled Affrica, Dwyrain Ewrop ac ym Mhacistan.
Treuliodd Stu ddegawd yn gweithio yn yr amgylchedd corfforaethol fel rheolwr ynni a chynaliadwyedd, gan feithrin cynaliadwyedd ym mhob agwedd o weithrediadau a newid syniadau o gyfrifoldeb amgylcheddol. Roedd yn gyfrifol am bortffolio o 50 o asedau manwerthu a hamdden ar draws y DU, gan gadw’r portffolio cyfan yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth gyfredol, yn ogystal â gweithredu system reoli ISO:50001 ar draws pob safle.
Treuliodd Stu 2 flynedd yn gweithio i’r GIG, yn gyfrifol am ddarparu arweiniad cynaliadwyedd i Ymddiriedolaeth acíwt, gan gynnwys datblygu Cynlluniau Gwyrdd a strategaethau ar gyfer datgarboneiddio gwres.
Yn 2018, symudodd Stu a’i deulu o Gaint i Eryri, y Parc Cenedlaethol hardd yng Ngogledd Cymru. Gwnaeth hyn i ganiatáu i’w blant dyfu i fyny wedi’u hamgylchynu gan natur ac i ddysgu, fel pobl ifanc, am bwysigrwydd gwarchod a chadw ein hamgylchedd.
Yn ei amser hamdden, mae Stu yn aelod gweithgar o Dîm Achub Mynydd Aberglaslyn, yn dysgu’r Gymraeg ac yn dringwr, rhedwr ac aelod o’r gymuned leol.
Bu Stu yn gweithio fel gweithiwr cymorth dyngarol am 7 mlynedd, yn y Balcanau, Affrica ac Asia
Bu Stu yn gweithio am 10 mlynedd yn y sector corfforaethol fel rheolwr ynni yn gyfrifol am 50 o asedau manwerthu a hamdden o’r DU
Treuliodd 2 flynedd yn gweithio i'r GIG fel Rheolwr Ynni a Chynaliadwyedd
Symudodd Stu i Ogledd Cymru fel y gallai ei blant dyfu i fyny wedi'u hamgylchynu gan natur

Pwy Ydym Ni
Cwrdd â’r Tîm
Mae’r busnes yn defnyddio tîm cymwys iawn o cymdeithion i weithredu a chyflawni prosiectau. Stu yw’r cyswllt rhwng y cleient a’r cymdeithion technegol i wneud yn siŵr bod yr ateb gorau yn cael ei nodi a’i ddarparu.

Sara Douza
Uwch Ddadansoddwr Carbon
PGDip BSc
Fel Dadansoddwr Cynaliadwyedd, mae Sara yn gyfrifol am gyfrifo ac adrodd ar allyriadau carbon Cwmpas 1,2 a 3 ar gyfer busnesau a sefydliadau sector cyhoeddus. Mae gan Sara brofiad o weithredu ar yr hinsawdd a gweithio ar amrywiaeth o brosiectau cynaliadwyedd yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.

Rebecca Tod
PGDipBSc
Asesydd Carbon
Daw Becky â chyfuniad unigryw o brofiad mewn gwerthu tai a chefndir academaidd cadarn mewn bioleg y môr. Yn ddiweddar cwblhaodd ei MSc ym Mhrifysgol Bangor. Mae ei hangerdd dros yr awyr agored, cynaliadwyedd, ac ystadegau yn gyrru ei hymrwymiad at leihau allyriadau carbon. Fel un o’n Haseswyr Carbon yn Greener Edge, mae Becky wedi ymrwymo i gael effaith amgylcheddol gadarnhaol.

George Abbott
Asesydd Carbon
Mae George yn Asesydd Carbon yn Greener Edge. Gyda phrofiad mewn antur awyr agored a chynaliadwyedd, mae George yn ymroddedig i leihau allyriadau carbon a gwarchod yr amgylchedd. Gyda diddordeb amrywiol ym myd chwaraeon, mae ganddo angerdd ac awydd eiddgar i ddysgu cymaint â phosibl.

Eve Treadaway
Bsc
Ymchwilydd Academaidd
Mae Eve yn gweithio o bell dros Greener Edge o Calgary, ond mae ganddynt gysylltiad cryf o hyd â Chymru, lle cwblhawyd eu BSc mewn Bioleg, gan arbenigo mewn Ecoleg Coedwig, ym Mhrifysgol Caerdydd.
Ar ôl gweithio fel ffermwr trefol, bragwr, dadansoddwr data, a mecanig beiciau, mae Eve yn angerddol ynglyn a o hyd i atebion cynaliadwyedd ymarferol a goresgyn rhwystrau byd go iawn i sero net.

Stu Meades
3b3MBA CEnv MIEMA EnvDipNEBOSH CEM AssocMCIWM
Rheolwr Gyfarwyddwr, Greener Edge.
Mae’r Rheolwr Gyfarwyddwr Stu yn Amgylcheddwr Siartredig, yn Rheolwr Ynni Ardystiedig, yn aelod llawn o IEMA ac yn aelod cyswllt o CIWM. Mae ganddo brofiad helaeth o reoli ynni a materion amgylcheddol o fewn lleoliadau masnachol a gofal iechyd ac mae wedi cyflawni prosiectau sy’n anelu at leihau carbon, diogelu a gwella’r amgylchedd, rheoli gwastraff ac effeithlonrwydd adnoddau.

Nicola Meades
Rheolwr Swyddfa
Mae gan Nicola gefndir gofal iechyd, ar ôl gweithio fel nyrs am 30 mlynedd yn y GIG a thramor fel gweithiwr cymorth dyngarol. Nicola sy’n rheoli’r swyddfa ac yn cadw’r ochr weinyddol yn gwbl weithredol. Mae Jasper, y Labrador du, bob amser yn awyddus i helpu hefyd, ar yr amod ei fod yn cael ei dalu mewn bisgedi!

Lucy Coombs
Msc
Uwch Swyddog Prosiect
Mae gan Lucy ddealltwriaeth eang o heriau newid byd-eang a dimensiynau ymarferol cynaliadwyedd ar ôl cwblhau gradd BSc Gwyddorau Biolegol ac MSc mewn Cynllunio Cynaliadwyedd a Pholisi Amgylcheddol ym Mhrifysgol Caerdydd. Cyn ymuno â Greener Edge, cynhaliodd Lucy asesiadau cynaliadwyedd ar draws y diwydiant adeiladu, gan roi arweiniad i gleientiaid yn y sector cyhoeddus a phreifat sy’n ceisio ddatgarboneiddio drwy ddylunio ac adeiladu. Mae Lucy yn darparu strategaethau arbed carbon pwrpasol ar gyfer ein cleientiaid ac mae’n angerddol am ddyfodol sero net.

Hendry Schmidt
Bsc
Aasesydd Carbon
Fel un sydd wedi graddio mewn peirianneg fecanyddol ac yn hoff o’r awyr agored, mae Henry wasted wedi bod yn awyddus i wthio am atebion mwy cynaliadwy a deall sut maen nhw’n gweithio. Yn y gwaith mae’n cyfrifo olion traed Carbon ac yn chwilio am ffyrdd i’w lleihau. Ar ei ddyddiau rhydd gellir dod o hyd iddo fel arfer yn ceufadu ar afonydd Gwlad y Sgydau, ym Mannau Brycheiniog.

Zedekaii Oliver-Jones
MMath, Cymdeithas DEA
Uwch Ddadansoddwr Data
Fel yr uwch Ddadansoddwr Data ar gyfer Greener Edge, mae Zed yn gyfrifol am gyfrifo ac reportio ar olion troed carbon busnesau sy’n amrywio o weithgynhyrchwyr hufen iâ i gyfrifwyr siartredig. Mae hyn yn cynnwys cynnal archwiliadau ynni safle, lle mae’n amlinellu’r cyfleoedd i wneud y gorau o’r effeithlonrwydd ynni o fewn y busnes ac yn adolygu’r ôl troed carbon cyffredinol, i ddatblygu mesurau arbed carbon pwrpasol.

Sirina Blankson
MSc PIEMA
Ymgynghorydd Cynaliadwyedd Cyswllt
Fel uwch weithiwr proffesiynol Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd yn y DU, mae Sirina ar hyn o bryd yn gyfrifol am arwain yr agenda Cynaliadwyedd ar draws grŵp mawr o sefydliadau yn y sector cyhoeddus. Mae Sirina yn arwain ar wahanol feysydd thematig gan gynnwys strategaeth cynaliadwyedd a gweithredu polisi Net Zero, teithio cynaliadwy, ymgysylltu â staff, a hyfforddiant newid ymddygiad yn ogystal â rheoli gwastraff ac adnoddau.
Mae gan Sirina dros 15 mlynedd o brofiad o weithio ar leihau allyriadau carbon ar draws y sectorau preifat a chyhoeddus ac mae’n frwd dros leihau anghydraddoldebau iechyd a chymdeithasol.

Eben Muse
MPhys
Ymchwilydd Academaidd
Mae gan Eben gefndir academaidd mewn ymchwil ynni solar, ond mae bellach yn treulio ei amser yn gweithio ym meysydd cynaliadwyedd, polisi, a gwaith ymgyrchu, yn ogystal ag ysgrifennu. Yn ei amser hamdden mae wrth ei fodd yn mynd allan i fyd natur. Mae’n rhannu ei amser gwaith rhwng gweithio ar faterion amgylcheddol i Gyngor Mynydda Prydain, i elusen hinsawdd Climate Cymru, ac i Greener Edge.
Pwy Ydym Ni
Cwrdd â’r Tîm
Mae’r busnes yn defnyddio tîm cymwys iawn o cymdeithion i weithredu a chyflawni prosiectau. Stu yw’r cyswllt rhwng y cleient a’r cymdeithion technegol i wneud yn siŵr bod yr ateb gorau yn cael ei nodi a’i ddarparu.

Stu Meades
MBA CEnv MIEMA EnvDipNEBOSH CEM AssocMCIWM
Rheolwr Gyfarwyddwr, Greener Edge.
Mae’r Rheolwr Gyfarwyddwr Stu yn Amgylcheddwr Siartredig, yn Rheolwr Ynni Ardystiedig, yn aelod llawn o IEMA ac yn aelod cyswllt o CIWM. Mae ganddo brofiad helaeth o reoli ynni a materion amgylcheddol o fewn lleoliadau masnachol a gofal iechyd ac mae wedi cyflawni prosiectau sy’n anelu at leihau carbon, diogelu a gwella’r amgylchedd, rheoli gwastraff ac effeithlonrwydd adnoddau.

Zedekaii Oliver-Jones
MMath, Cymdeithas DEA
Uwch Ddadansoddwr Data
Fel yr uwch Ddadansoddwr Data ar gyfer Greener Edge, mae Zed yn gyfrifol am gyfrifo ac reportio ar olion troed carbon busnesau sy’n amrywio o weithgynhyrchwyr hufen iâ i gyfrifwyr siartredig. Mae hyn yn cynnwys cynnal archwiliadau ynni safle, lle mae’n amlinellu’r cyfleoedd i wneud y gorau o’r effeithlonrwydd ynni o fewn y busnes ac yn adolygu’r ôl troed carbon cyffredinol, i ddatblygu mesurau arbed carbon pwrpasol.

Jacob Fielder
MEng
Dadansoddwr Cynaladwyedd
Mae Jacob yn gyfrifol am gribo trwy’r data a ddarparwyd i Greener Edge gan gleientiaid a chymharu hyn yn erbyn safonau’r llywodraeth a diwydiant i beintio’r darlun mwyaf cywir o’u hôl troed carbon. Defnyddir hyn i gynhyrchu’r ystadegau a’r graffiau yn yr adroddiadau sy’n caniatáu i Greener Edge ddechrau datblygu strategaethau i leihau allyriadau.

Phil Bolton
BSc (Anrh) MCIEEM, MACMA
Ecolegydd
Mae Phil yn darparu rheolaeth ystadau ymarferol ac yn goruchwylio’r ‘ased amgylcheddol’ i gleientiaid. Ef yw rheolwr gyfarwyddwr Wildthing Wildlife Consultants Limited, busnes sy’n cefnogi diwydiant adeiladu mwy gwyrdd. Mae gan Phil brofiad ymarferol helaeth o faterion rheoli cefn gwlad ac arolygu a rheoli bywyd gwyllt dros gyfnod o fwy na 40 mlynedd.

Dr Dan Wright
BSc (Anrh) MSc MRes AIEMA
Ymgynghorydd Cynaliadwyedd Cyswllt
Mae gan Dan brofiad helaeth mewn dadansoddi data, ymchwil, defnyddio arloesedd ac ymgysylltu â rhanddeiliaid â gyrfa sy’n rhychwantu’r sectorau elusennol, academaidd, technoleg a gofal iechyd. Mae Dan yn angerddol am symleiddio prosesau, datrysiadau a arweinir gan ymchwil ac arloesi technolegol.

Rhys Harris
Mae Rhys yn wreiddiol o Abertawe ac ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer gradd Peirianneg Fecanyddol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae ei ddiddordeb mewn lleihau carbon, ac yn y pen draw niwtraliaeth, wedi ei arwain i ymuno â thîm Greener Edge, lle mae’r freuddwyd hon yn cael ei rhannu gan bawb.
Mae’n edrych ymlaen at helpu Greener Edge i gyflawni ei nod, un cleient ar y tro!

Eben Muse
Ymchwilydd Academaidd
Mae gan Eben gefndir academaidd mewn ymchwil ynni solar, ond mae bellach yn treulio ei amser yn gweithio ym meysydd cynaliadwyedd, polisi, a gwaith ymgyrchu, yn ogystal ag ysgrifennu. Yn ei amser hamdden mae wrth ei fodd yn mynd allan i fyd natur. Mae’n rhannu ei amser gwaith rhwng gweithio ar faterion amgylcheddol i Gyngor Mynydda Prydain, i elusen hinsawdd Climate Cymru, ac i Greener Edge.

Sam McMordie
Dadansoddwr Data
Mae Sam yn Ddadansoddwr Data Greener Edge, gyda phrofiad fel Dadansoddwr mewn Ymgynghoriaeth Economeg Iechyd ac yn fwyaf diweddar fel Uwch Gydymaith mewn cwmni Rheoli Cyfoeth. Mae Sam wedi cymhwyso ymchwil yn seiliedig ar dystiolaeth a sgiliau modelu yn ei rôl flaenorol fel Dadansoddwr, lle bu’n cyd-ysgrifennu cyhoeddiadau a gyhoeddwyd mewn cyfnodolion academaidd.

Sirina Blankson
Ymgynghorydd Cynaliadwyedd Cyswllt
Fel uwch weithiwr proffesiynol Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd yn y DU, mae Sirina ar hyn o bryd yn gyfrifol am arwain yr agenda Cynaliadwyedd ar draws grŵp mawr o sefydliadau yn y sector cyhoeddus. Mae Sirina yn arwain ar wahanol feysydd thematig gan gynnwys strategaeth cynaliadwyedd a gweithredu polisi Net Zero, teithio cynaliadwy, ymgysylltu â staff, a hyfforddiant newid ymddygiad yn ogystal â rheoli gwastraff ac adnoddau.

Will Miller
MSc
Mae gan Will gefndir mewn geowyddorau ac mae wedi gweithio ar lawer o brosiectau seilwaith ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr. Wrth edrych am newid gyrfa i’r sector amgylcheddol a chynaliadwyedd mae’n gobeithio defnyddio ei brofiad o ddadansoddi data ac arolygu safleoedd i helpu cleientiaid at ddyfodol mwy cynaliadwy. Mae Will yn angerddol am effeithlonrwydd ynni ac ar hyn o bryd mae’n gweithio tuag at ei Dystysgrif IEMA mewn Rheolaeth Amgylcheddol.